1 Chronicles 10

Saul yn lladd ei hun

(1 Samuel 31:1-13)

1Dyma'r Philistiaid yn dod i ryfela yn erbyn Israel. Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi o flaen y Philistiaid a syrthiodd llawer ohonyn nhw'n farw ar fynydd Gilboa. 2Roedd y Philistiaid reit tu ôl i Saul a'i feibion, a dyma nhw'n llwyddo i ladd ei feibion, Jonathan, Abinadab a Malci-shwa. 3Roedd y frwydr yn ffyrnig o gwmpas Saul, a dyma'r bwasaethwyr yn ei daro, a'i anafu'n ddrwg.

4Dyma Saul yn dweud wrth y gwas oedd yn cario'i arfau, “Cymer dy gleddyf a thrywana fi. Paid gadael i'r paganiaid yma ddod a'm poenydio i.” Ond roedd gan y gwas ofn gwneud hynny. Felly dyma Saul yn cymryd y cleddyf ac yn syrthio arno. 5Pan welodd y gwas fod Saul wedi marw, dyma fe hefyd yn syrthio ar ei gleddyf a marw. 6Felly cafodd Saul a tri o'i feibion, a'i deulu i gyd eu lladd gyda'i gilydd.

7Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i'r dyffryn yn clywed fod y milwyr wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw'n gadael eu trefi a ffoi. A dyma'r Philistiaid yn dod i fyw ynddyn nhw.

8Y diwrnod ar ôl y frwydr dyma'r Philistiaid yn dod i ddwyn oddi ar y cyrff meirw. A dyma nhw'n dod o hyd i Saul a'i feibion yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa. 9Dyma nhw'n cymryd ei arfau oddi arno, torri ei ben i ffwrdd, ac anfon negeswyr drwy wlad y Philistiaid i gyhoeddi'r newyddion da yn nhemlau eu duwiau ac wrth y bobl. 10Wedyn dyma nhw'n rhoi arfau Saul yn nheml eu duwiau, a hongian ei ben yn nheml y duw Dagon.

11Pan glywodd pobl Jabesh yn Gilead am bopeth roedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul, 12dyma'r milwyr yn mynd allan i nôl cyrff Saul a'i feibion a mynd â nhw i Jabesh. Dyma nhw'n cymryd yr esgyrn a'u claddu o dan y goeden dderwen yn Jabesh, ac ymprydio am wythnos.

13Felly buodd Saul farw am ei fod wedi bod yn anffyddlon ac anufudd i'r Arglwydd. Roedd e hyd yn oed wedi troi at ddewiniaeth, 14yn lle gofyn am arweiniad yr Arglwydd. Felly dyma'r Arglwydd yn ei ladd ac yn rhoi ei frenhiniaeth i Dafydd fab Jesse.

Copyright information for CYM